Cystadleuaeth cynllun sesiwn
Gwaithieuenctidcymru yn cynnig 10 x gwobr £50 am gynllun sesiwn gyda phobl ifanc
Mae’r gronfa adnoddau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru, Gwaithieuenctidcymru, yn cynnig deg gwobr o £50 i unigolion yng Nghymru ar gyfer dylunio cynllun sesiwn i weithwyr ieuenctid ei ddefnyddio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Dylai’r cynllun sesiwn fod yn 30 munud o hyd a hyrwyddo gwaith grŵp effeithiol gyda phobl ifanc o gwmpas problem llesiant neu iechyd.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn weithwyr ieuenctid yng Nghymru ar unrhyw lefel a gallent fod yn fyfyrwyr, cyflogeion neu wirfoddolwyr mewn unrhyw waith ieuenctid neu sector sy’n gysylltiedig â gwaith ieuenctid.
Asesir y cynllun sesiwn a gyflwynir gan fwrdd golygyddol Gwaithieuenctidcymru a chaiff y deg ymgeisydd a fydd yn cyflwyno’r cynlluniau sesiwn gorau wobr gwerth £50 yr un.
Gwahoddir ceisiadau trwy ddefnyddio’r ffurflen. Dylid dychwelyd y ffurflen erbyn dydd Iau 20 Mehefin 2018.
Meini prawf ar gyfer sesiwn gweithgaredd:
- Dyluniwch gynllun sesiwn 30-munud ar gyfer gweithgaredd i hyrwyddo gwaith grŵp effeithiol ymhlith grŵp o bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed;
- Dylai cynllun y sesiwn fod yn un cyfranogol gyda ffocws ar fater llesiant neu iechyd;
- Rhaid i’r cynllun sesiwn fod yn ddarn gwreiddiol o waith neu a addaswyd ar sail gweithgaredd sy’n bodoli eisoes. Os bydd y sesiwn wedi ei haddasu, rhaid cydnabod a dyfynnu’r ffynhonnell wreiddiol;
- Rhaid i’r cynllun sesiwn gynnwys dechrau a diwedd clir ynghyd â gweithgaredd byr i dorri’r iâ;
- Er y dyluniwyd y sesiwn i’w defnyddio gyda phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a myfyrwyr gwaith ieuenctid fydd yn defnyddio’r cynllun sesiwn yn bennaf. O’r herwydd, mae angen iddo adlewyrchu hyn a chael ei ddefnyddio mewn modd sy’n ddefnyddiol i’r defnyddiwr;
- Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau i gyd-fynd â’r cynllun sesiwn;
- Y dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno cynlluniau sesiwn yw dydd Iau 20 Mehefin 2018;
- Caiff yr ymgeiswyr wybod erbyn dydd Iau 27 Mehefin 2018;
- Caiff yr holl gynlluniau sesiwn, ynghyd â’r cynlluniau sesiwn sy’n addas, eu cynnwys ar wefan Gwaithieuenctidcymru a bydd ar gael i’r cyhoedd. Cydnabyddir yr awdur;
- Bydd cymorth ar gael gan dîm golygyddol Gwaithieuenctidcymru ond dylai’r unigolyn allu dangos lefel uchel o annibyniaeth wrth ddylunio’r cynllun sesiwn.
Meini prawf asesu ar gyfer ceisiadau:
a. Perthnasedd y gweithgaredd a’r cynllun sesiwn
b. I ba raddau mae’n bodloni’r briff ac yn ateb y cwestiynau ar y ffurflen
c. Yn gyson ag egwyddorion a gwerthoedd cadarn gwaith ieuenctid
d. Creadigrwydd ac arloesedd
e. Arddull ysgrifennu