Chwilio ein Cronfa Ddata Adnoddau

Ni yw prif ddarparwr adnoddau gwybodaeth ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae gwaithieuenctidcymru yn wefan dielw a gefnogir gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Nod y wefan yw cynnig ystod o wybodaeth a wnaiff gynorthwyo ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru i ddatblygu theori ac arfer.

Mae’r wefan yn canolbwyntio’n bennaf ar arddull benodol o weithio gyda phobl ifanc, a gyflwynir o fewn fframwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, sy’n annog pobl ifanc 11-25 oed i gyfranogi’n wirfoddol mewn ystod eang o weithgareddau positif.

Mae canlyniadau gweithgareddau o’r fath yn cynnwys datblygu ymdeimlad o hunaniaeth bersonol ymhlith pobl ifanc, eu lles a’u lle o fewn eu cymdogaeth, eu cymuned, a’r gymdeithas ehangach.

Os hoffech ymuno â gwaithieuenctidcymru a chael diweddariadau rheolaidd trwy gyfrwng e-bost, llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.