Search Our Resource Database

OR Filter by letter

Llawlyfr – Galluogi Cyfranogiad

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r llawlyfr hwn yn cyflwyno, esbonio, neu’n ymhelaethu ar wybodaeth gyfredol yn ymwneud â chyfranogiad gan bobl ifanc. Wrth geisio cyflawni’r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc y’u hesbonnir yn nogfen ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ sydd ar fin disodli’r Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (Gorffennaf 2012) a’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, mae’n cynnig syniadau a gwybodaeth i weithio gyda phobl ifanc er mwyn iddynt allu chwarae rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. 

Bwriad y llawlyfr yw annog gweithwyr ieuenctid i gynyddu lefelau cyfranogiad pobl ifanc yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac i gynorthwyo staff o feysydd eraill sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc i wneud yr un fath. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Author: CWVYS, awduron amrywiol 2012
More Details

Description


File size
878.95 Kb