Search Our Resource Database

OR Filter by letter

Llawlyfr – Iechyd a Lles

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu gwybodaeth, cyngor, gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc sy’n dysgu am yr agweddau lawer ar Iechyd a Lles. Yn gyffredinol, bu’n rhaid i weithwyr ieuenctid wneud eu hymchwil eu hunain i chwilio am yr adnoddau i ddarparu’r rhain yn effeithiol. Yn y llawlyfr hwn, cynigir cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer darparu gwaith ieuenctid Iechyd a Lles o ansawdd mewn un lle. Ni fwriedir iddo fod yn ateb awdurdodol i hyn ond mae’n cynnig adnoddau ar y rhan fwyaf o feysydd lle mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc. Bwriedir y bydd modd i’r adnoddau gael eu defnyddio gan bob gweithiwr ieuenctid, boed yn gyflogedig neu beidio, mewn unrhyw safle ac am ba gyfnod bynnag o amser y bydd y safle hwnnw’n weithredol. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Author:
More Details

Description


File size
4.40 Mb