Search Our Resource Database

Search Results (234)

Showing results using some of your search terms

Challenges and opportunities for Youth Workers in Wales

Author: John Rose, 2018
Paper which explores how the Youth Service can survive and prosper in an alien environment.

The Conflicted Practitioner

Author: Nicholas Hudd, 2017
Short paper by Nicholas Hudd, reflecting on the role of practitioners in shaping and promoting youth work and asking whether more could be done.

Dyfodol cynaliadwy: cyfraniad gwaith ieuenctid i bolisi ‘Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Llywodraeth Cymru ac i’r adolygiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’

Author:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Llywodraeth Cymru 2015) ac argymhellion adolygiad Donaldson Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson 2015) yn rhoi cyfle o’r newydd i waith ieuenctid yng Nghymru brofi’i werth a chreu dyfodol cynaliadwy iddo’i hun. 

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r cyfraniad y gall gwaith ieuenctid ei wneud i’r agendâu Llywodraeth Cymru hyn.

Gwobrwywyd Jamie Jones-Mead â bwrsari o Gwaithieuenctidcymru i gwblhau’r erthygl hon.

Mae Jamie Jones-Mead yn weithiwr ieuenctid a chymuned â chymwysterau proffesiynol.   Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid ac mae wedi gweithio mewn nifer o leoliadau yng Nghymru, y DG ac yn rhyngwladol.  

Mae’r rhain yn cynnwys mewn gwasanaethau ieuenctid statudol, gyda phobl ifanc anabl, troseddwyr ifanc, cleifion canser ifanc a phrofiad sylweddol yn y trydydd sector.   Yn ogystal â bod yn ymarferydd profiadol, mae gan Jamie ddiddordeb penodol mewn iechyd a llesiant, gan ei fod wedi arwain a rheoli rhaglenni tybaco a smygu ASH Cymru ar gyfer pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn lleoliad iechyd y cyhoedd.

Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid: Atal troseddu ymhlith pobl ifanc Cymru – rôl gwaith ieuenctid

Author: Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid 2016

Diweddariad Gwaith Ieuenctid – Mai 2017- 4ydd diweddariad

Author: Llywodraeth Cymru 2017
Ein nod yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â gwaith allweddol o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â gwaith ieuenctid.

FfYDI Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid Cynllun gweithredu

Author: Llywodraeth Cymru 2013

Mae’r ddogfen hon ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y system addysg a hyfforddiant sy’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg a hyfforddiant,

gan gynnwys uwch arweinwyr mewn awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid a darparwyr (ysgolion, colegau addysg bellach (AB), gwaith-dysgu seiliedig ar waith (DSW)). 

Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’n rhoi crynodeb gweithredol o’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu. Bydd angen i bob
rhan o’r system gan Lywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol, yr awdurdodau lleol a darparwyr i weithio gyda’i gilydd i weithredu’r cynllun hwn yn llwyddiannus. Mae’r cynllun yn nodi gwahanol rolau a chyfrifoldebau chwaraewyr allweddol a disgwyliadau ar gyfer sut y bydd pob partner yn cyflawni. 

Mae’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu yn nodi ein dull gweithredu newydd. Mae i’r fframwaith chwe elfen allweddol.

  1. Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio.
  2. Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth.
  3. Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc.
  4. Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc.
  5. Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth.
  6. Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc.

Mae dau gynnig newydd i bobl ifanc drwy’r fframwaith.

  • Y cyntaf yw penodi un pwynt cyswllt (swyddog arweiniol) ar gyfer y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio er mwyn helpu i sicrhau y caiff cymorth ei roi mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol a’i fod yn llwyddo i ddiwallu eu hanghenion.
  • Yr ail yw datblygu Gwarant Ieuenctid rhagweithiol a chadarnhaol a fydd yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at le addas ym myd dysgu ar ôl 16 oed. 

 

FfYDI Rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith yng Nghymru Canllawiau drafft

Author: Llywodraeth Cymru 2014
Mae’r ddogfen hon yn cefnogi’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd cychwynnol i awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol ar y Warant Ieuenctid a’r prif brosesau i’w sefydlu i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymwneud ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Caiff y ddogfen ei llywio gan weithgarwch y treialon a bydd ei ffurf derfynol yn ymddangos yn hydref 2014 cyn i’r Warant Ieuenctid gael ei chyflwyno ledled Cymru. Yng Nghynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid rydym yn ymrwymo i gyflwyno gwarant y bydd lle mewn addysg neu hyfforddiant i bobl ifanc sy’n gadael addysg orfodol am y tro cyntaf. Mae ein Gwarant Ieuenctid yn cynnwys “cynnig, derbyn a chychwyn lle addas mewn addysg neu hyfforddiant i berson ifanc sy’n symud am y tro cyntaf o addysg orfodol yn 16 oed”. Mae’r Warant Ieuenctid yn cael ei threialu yn rhanbarthau Gogledd a Gorllewin Cymru rhwng Tachwedd 2013 a Hydref 2014. Bwriedir rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith ledled Cymru rhwng Tachwedd 2014 a Hydref 2015. Felly bydd y grŵp cyntaf o bobl ifanc yn cychwyn eu cynigion o dan y Warant ym Medi a Hydref 2015.

FfYDI Gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Adroddiad terfynol

Author: Llywodraeth Cymru 2015

Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae chwe elfen i’r Fframwaith, y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu ymgysylltiad a datblygiad ieuenctid o’u gweithredu gyda’i gilydd yn rhan o strategaeth. Dyma’r elfennau: adnabod yn gynnar, gwell broceriaeth a chydgysylltu cymorth; prosesau olrhain a throsglwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc; sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc; pwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ymhlith pobl ifanc; a mwy o atebolrwydd. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am arwain y broses o weithredu’r Fframwaith, gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, darparwyr hyfforddiant i bobl ifanc 16 oed a hŷn a phartneriaid eraill. 

Nod y gwerthusiad oedd asesu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Fframwaith ac effeithiolrwydd prosesau gweithredu, gan ystyried a yw’r arweiniad anstatudol yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau a thargedau Llywodraeth Cymru ac amlygu gwersi i’w dysgu er mwyn gwella’r arweiniad a’r broses weithredu. 

Rhaglen Bartneriaeth Gwaith Ieuenctid ac Ysgolion: Adroddiad Terfynol

Author: Helen Payne, Cyngor Ieuenctid Cymru 2003

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan ddefnyddio gwybodaeth o'r adroddiad ar ddiwedd y prosiect ac
adroddiadau dros dro. Mae’r adroddiad yn cynnig golwg gyffredinol ar y rhaglen o’i sefydlu yn 1998 hyd ei diwedd yn 2003 ynghyd ag argymhellion a goblygiadau ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion 2014

Author: gan Grwp Adolygu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, Ionawr 2014

Dwyieithog. Prif amcan y ddogfen yw nodi’r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid a bwrw golwg gyffredinol ar ei ddibenion ac ar y gwaith o’i ddarparu. Mae cynnwys y ddogfen yn ymwneud yn benodol â gwaith ieuenctid yng Nghymru, ond mae’n debyg y bydd yn cyd-fynd ag egwyddorion, dibenion ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn rhannau eraill o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon.