Search Our Resource Database

Search Results (485)

Showing results using some of your search terms

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014-2018

Author: Llywodraeth Cymru 2014

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac mae’n adeiladu ar ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 18 Mehefin 2013 ac 16 Medi 2013. Mae’r strategaeth yn cydnabod gwerth a rôl gwaith ieuenctid mynediad agored; mae’n hyrwyddo cysylltiad cryfach rhwng gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol; mae’n nodi’r angen am gydweithio agosach rhwng mudiadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol; ac mae’n nodi’r angen i gryfhau’n sylweddol y sylfaen dystiolaeth ar effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol, yn ogystal ac awdurdodau lleol, gydweithio er mwyn gweithredu’r camau a nodwyd a datblygu gwaith ieuenctid.

FfYDI Rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith yng Nghymru Canllawiau drafft

Author: Llywodraeth Cymru 2014
Mae’r ddogfen hon yn cefnogi’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd cychwynnol i awdurdodau lleol
a phartneriaid allweddol ar y Warant Ieuenctid a’r prif brosesau i’w sefydlu i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymwneud ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Caiff y ddogfen ei llywio gan weithgarwch y treialon a bydd ei ffurf derfynol yn ymddangos yn hydref 2014 cyn i’r Warant Ieuenctid gael ei chyflwyno ledled Cymru.

Yng Nghynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid rydym yn ymrwymo i gyflwyno gwarant y bydd lle mewn addysg neu hyfforddiant i bobl ifanc sy’n gadael addysg orfodol am y tro cyntaf. Mae ein Gwarant Ieuenctid yn cynnwys “cynnig, derbyn a chychwyn lle addas mewn addysg neu hyfforddiant i berson ifanc sy’n symud am y tro cyntaf o addysg orfodol yn 16 oed”.

Mae’r Warant Ieuenctid yn cael ei threialu yn rhanbarthau Gogledd a Gorllewin Cymru rhwng Tachwedd 2013 a Hydref 2014. Bwriedir rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith ledled Cymru rhwng Tachwedd 2014 a Hydref 2015. Felly bydd y grŵp cyntaf o bobl ifanc yn cychwyn eu cynigion o dan y Warant ym Medi a Hydref 2015.

Llawlyfr – Iechyd a Lles

Author:

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu gwybodaeth, cyngor, gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc sy’n dysgu am yr agweddau lawer ar Iechyd a Lles. Yn gyffredinol, bu’n rhaid i weithwyr ieuenctid wneud eu hymchwil eu hunain i chwilio am yr adnoddau i ddarparu’r rhain yn effeithiol. Yn y llawlyfr hwn, cynigir cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer darparu gwaith ieuenctid Iechyd a Lles o ansawdd mewn un lle. Ni fwriedir iddo fod yn ateb awdurdodol i hyn ond mae’n cynnig adnoddau ar y rhan fwyaf o feysydd lle mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc. Bwriedir y bydd modd i’r adnoddau gael eu defnyddio gan bob gweithiwr ieuenctid, boed yn gyflogedig neu beidio, mewn unrhyw safle ac am ba gyfnod bynnag o amser y bydd y safle hwnnw’n weithredol. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Llawlyfr – Cyfnweidiadau Ieuenctid

Author: CWVYS, awduron amrywiol 2012

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r llawlyfr hwn wedi cael ei ddatblygu i gyflwyno, egluro neu ymhelaethu ar wybodaeth a phrofiadau cyfredol mewn perthynas â phrosiectau cyfnewid ieuenctid a phrofiadau diwylliannol. Wrth geisio cyflawni'r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc y mae Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru a Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn canolbwyntio arnynt, mae'n annog datblygu cyfleoedd i ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad bywyd pobl ifanc sy'n ymgysylltu â darpariaeth gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

FfYDI Gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Adroddiad terfynol

Author: Llywodraeth Cymru 2015

Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae chwe elfen i’r Fframwaith, y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu ymgysylltiad a datblygiad ieuenctid o’u gweithredu gyda’i gilydd yn rhan o strategaeth. Dyma’r elfennau: adnabod yn gynnar, gwell broceriaeth a chydgysylltu cymorth; prosesau olrhain a throsglwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc; sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc; pwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ymhlith pobl ifanc; a mwy o atebolrwydd. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am arwain y broses o weithredu’r Fframwaith, gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, darparwyr hyfforddiant i bobl ifanc 16 oed a hŷn a phartneriaid eraill. 

Nod y gwerthusiad oedd asesu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Fframwaith ac effeithiolrwydd prosesau gweithredu, gan ystyried a yw’r arweiniad anstatudol yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau a thargedau Llywodraeth Cymru ac amlygu gwersi i’w dysgu er mwyn gwella’r arweiniad a’r broses weithredu. 

NOS Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid 2012

Author: LSIS 2012

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid 2012

Canllawiau ar Fwyd a Diod Iach mewn Lleoliadau Gwaith Ieuenctid

Author: Llywodraeth Cymru, 2012

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor ymarferol i helpu gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc i ddarparu bwyd a diod iachach mewn lleoliadau lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae’n cefnogi’r gwaith a wneir trwy Newid am Oes, Blas am Oes, a Chynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwella deiet cyffredinol pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd ˆa nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn esiampl o arferion da yn yr ymdrech i greu amgylchedd lle mae’n hawdd i bobl fwyta’n iach.

Hanes Mudiad y Clybiau Bechgyn yng Nghymru -Llinell Amser 28-08

Author: Clybiau Pobl Ifanc Cymru, 2009

Mae tymor i bob llywodraeth yn ei thro, cynigir polisïau newydd, mae Gweinidogion yn sôn am eu hawydd i ddatrys y ‘problemau’ sy’n wynebu pobl ifanc o ddegawd i ddegawd. Yn y cyfamser mae Clybiau Pobl Ifanc Cymru’n parhau i gynnig ei raglen yng Nghymru heb ots am y blaid sy’n ennill yr etholiad na’r gwahanol fathau o argyfwng sy’n taro’r wlad. Ar wahân i newid ei enw o bryd i’w gilydd mae CPI Cymru’n dal i sefyll yn falch fel un o’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol mwyaf yn y Dywysogaeth.

Mae’r Mudiad yn ddyledus am ei lansio i’r perchennog pyllau glo a’r dyngarwr, David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam wedi hynny, a oedd yn Gadeirydd ar gwmni glo mawreddog Ocean. Ffurfiwyd clybiau i ddifyrru’r bechgyn ifanc a weithiai yn y glofeydd yn ystod eu horiau hamdden. Bu’r rhaglenni blynyddol yn fodd i gynnig profiadau a chyfleoedd newydd gan gadw’r un pryd at y gweithgareddau traddodiadol a oedd yn boblogaidd ymhlith yr aelodau ifanc, ac mae hynny’n wir hyd y dydd hwn.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion 2014

Author: gan Grwp Adolygu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, Ionawr 2014

Dwyieithog. Prif amcan y ddogfen yw nodi’r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid a bwrw golwg gyffredinol ar ei ddibenion ac ar y gwaith o’i ddarparu. Mae cynnwys y ddogfen yn ymwneud yn benodol â gwaith ieuenctid yng Nghymru, ond mae’n debyg y bydd yn cyd-fynd ag egwyddorion, dibenion ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn rhannau eraill o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Siarter Hawliau Pobl Ifanc

Author: Cyngor Ieuenctid Cymru 1995
SIARTER HAWLIAU POBL IFAINC 1. Dylai pobl ifanc gael mynediad i ystod o gyfleoedd a gweithgareddau sydd yn unol a'r rhai sydd ar gael yn y gymdeithas gyfoes. Dylai'r gwasanaeth ieuenctid gynnig amrediad o amgylchiadau Me bydd pobl ifainc: - yn teimlo'n gyfforddus a diogel - yn gallu bod yn anffurfiol yn gallu cymysgu a'u ffrindiau - yn gallu bod yn hyderus am y cyngor a'r wybodaeth y maent yn eu derbyn. Dylai darpariaeth ar gyfer pobl ifainc fod ar gael ar adegau sydd yn gyfleus i bobl …