GPSI: Sylwadau Estyn am Wasanaeth Ieuenctid Cymru, 2004-2012
Mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG) wedi paratoi’r papur hwn i ledaenu themâu arferion da yn bennaf, fel y bydd modd gwella ansawdd gwaith ieuenctid a chyflwyno tystiolaeth bod safonau’r gwaith hwnnw wedi bod yn uchel yn ystod y cyfnod dan sylw (8 mlynedd).
Mae rôl Estyn ynglŷn â Gwasanaeth Ieuenctid Cymru wedi newid dros y degawd diwethaf. Ar un adeg, roedd y gwasanaeth yn destun arolygu trylwyr. Ar ôl i’r drefn honno ddod i ben, byddai arolygwyr yn rhoi adborth amdano yn rhan o’r golwg ehangach ar wasanaethau cynorthwyo’r ifainc. Erbyn hyn, fodd bynnag, yn ôl y trefniadau presennol ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdodau lleol i blant a phobl ifanc, does dim gofyn i roi adborth penodol amdano.
Author: Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid, 2012
More Details