Datblygu Polisi ar Iechyd Rhywiol – Canllawiau i’r Gwasanaeth Ieuenctid Cyflwyniad
Mae gan y gwasanaeth ieuenctid a mudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc ran
allweddol i’w chwarae yn eu haddysg bersonol, gymdeithasol a iechyd. Er hynny, darganfu asesiad anghenion a gynhaliwyd yng Nghymru nad yw mudiadau ieuenctid yn y sectorau cynaledig a gwirfoddol wedi llunio polisïau ac ymarfer i ddatblygu’r gwaith hwn. Mae amryw byd o resymau am hyn ond un ohonynt yw diffyg eglurder ynghylch rôl y gwasanaeth ieuenctid a goblygiadau cyfreithiol darparu gwybodaeth a chyngor ar bwnc iechyd rhywiol. Mae’r tudalennau a ganlyn yn cynnwys syniadau ac awgrymiadau ar gyfer datblygu polisi a rhaglen iechyd rhywiol ynghyd â gwybodaeth ffeithiol am gyd-destun cyfreithiol gwaith yn y maes cymhleth hwn.
Author:
More Details