FfYDI Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid Cynllun gweithredu
Mae’r ddogfen hon ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y system addysg a hyfforddiant sy’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg a hyfforddiant,
gan gynnwys uwch arweinwyr mewn awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid a darparwyr (ysgolion, colegau addysg bellach (AB), gwaith-dysgu seiliedig ar waith (DSW)).
Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’n rhoi crynodeb gweithredol o’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu. Bydd angen i bob
rhan o’r system gan Lywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol, yr awdurdodau lleol a darparwyr i weithio gyda’i gilydd i weithredu’r cynllun hwn yn llwyddiannus. Mae’r cynllun yn nodi gwahanol rolau a chyfrifoldebau chwaraewyr allweddol a disgwyliadau ar gyfer sut y bydd pob partner yn cyflawni.
Mae’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu yn nodi ein dull gweithredu newydd. Mae i’r fframwaith chwe elfen allweddol.
- Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio.
- Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth.
- Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc.
- Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc.
- Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth.
- Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc.
Mae dau gynnig newydd i bobl ifanc drwy’r fframwaith.
- Y cyntaf yw penodi un pwynt cyswllt (swyddog arweiniol) ar gyfer y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio er mwyn helpu i sicrhau y caiff cymorth ei roi mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol a’i fod yn llwyddo i ddiwallu eu hanghenion.
- Yr ail yw datblygu Gwarant Ieuenctid rhagweithiol a chadarnhaol a fydd yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at le addas ym myd dysgu ar ôl 16 oed.