FfYDI Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid Cynllun gweithredu

Mae’r ddogfen hon ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y system addysg a hyfforddiant sy’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg a hyfforddiant,

gan gynnwys uwch arweinwyr mewn awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid a darparwyr (ysgolion, colegau addysg bellach (AB), gwaith-dysgu seiliedig ar waith (DSW)). 

Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’n rhoi crynodeb gweithredol o’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu. Bydd angen i bob
rhan o’r system gan Lywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol, yr awdurdodau lleol a darparwyr i weithio gyda’i gilydd i weithredu’r cynllun hwn yn llwyddiannus. Mae’r cynllun yn nodi gwahanol rolau a chyfrifoldebau chwaraewyr allweddol a disgwyliadau ar gyfer sut y bydd pob partner yn cyflawni. 

Mae’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid – Cynllun gweithredu yn nodi ein dull gweithredu newydd. Mae i’r fframwaith chwe elfen allweddol.

  1. Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio.
  2. Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth.
  3. Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc.
  4. Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc.
  5. Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth.
  6. Gwell atebolrwydd i sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc.

Mae dau gynnig newydd i bobl ifanc drwy’r fframwaith.

  • Y cyntaf yw penodi un pwynt cyswllt (swyddog arweiniol) ar gyfer y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio er mwyn helpu i sicrhau y caiff cymorth ei roi mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol a’i fod yn llwyddo i ddiwallu eu hanghenion.
  • Yr ail yw datblygu Gwarant Ieuenctid rhagweithiol a chadarnhaol a fydd yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at le addas ym myd dysgu ar ôl 16 oed. 

 

FfYDI Rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith yng Nghymru Canllawiau drafft

Mae’r ddogfen hon yn cefnogi’r Fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyfarwyddyd cychwynnol i awdurdodau lleol
a phartneriaid allweddol ar y Warant Ieuenctid a’r prif brosesau i’w sefydlu i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymwneud ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Caiff y ddogfen ei llywio gan weithgarwch y treialon a bydd ei ffurf derfynol yn ymddangos yn hydref 2014 cyn i’r Warant Ieuenctid gael ei chyflwyno ledled Cymru. 

Yng Nghynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid rydym yn ymrwymo i gyflwyno gwarant y bydd lle mewn addysg neu hyfforddiant i bobl ifanc sy’n gadael addysg orfodol am y tro cyntaf. Mae ein Gwarant Ieuenctid yn cynnwys “cynnig, derbyn a chychwyn lle addas mewn addysg neu hyfforddiant i berson ifanc sy’n symud am y tro cyntaf o addysg orfodol yn 16 oed”.

Mae’r Warant Ieuenctid yn cael ei threialu yn rhanbarthau Gogledd a Gorllewin Cymru rhwng Tachwedd 2013 a Hydref 2014. Bwriedir rhoi’r Warant Ieuenctid ar waith ledled Cymru rhwng Tachwedd 2014 a Hydref 2015. Felly bydd y grŵp cyntaf o bobl ifanc yn cychwyn eu cynigion o dan y Warant ym Medi a Hydref 2015. 

FfYDI Gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Adroddiad terfynol

Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae chwe elfen i’r Fframwaith, y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu ymgysylltiad a datblygiad ieuenctid o’u gweithredu gyda’i gilydd yn rhan o strategaeth. Dyma’r elfennau: adnabod yn gynnar, gwell broceriaeth a chydgysylltu cymorth; prosesau olrhain a throsglwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc; sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc; pwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ymhlith pobl ifanc; a mwy o atebolrwydd. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am arwain y broses o weithredu’r Fframwaith, gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, darparwyr hyfforddiant i bobl ifanc 16 oed a hŷn a phartneriaid eraill. 

Nod y gwerthusiad oedd asesu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Fframwaith ac effeithiolrwydd prosesau gweithredu, gan ystyried a yw’r arweiniad anstatudol yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau a thargedau Llywodraeth Cymru ac amlygu gwersi i’w dysgu er mwyn gwella’r arweiniad a’r broses weithredu.