Llawlyfr – Llwybrau Dysgu 14-19

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r Llawlyfr hwn yn cyflwyno, yn egluro ac yn ehangu ar wybodaeth gyfredol am fframwaith Llwybrau Dysgu 14-19 a rolau posibl gwaith ieuenctid o fewn y fframwaith.

Mae'r Llawlyfr yn ceisio annog trafodaeth ymhlith Gweithwyr Gwaith Ieuenctid am y potensial i wneud ymyriadau sy'n gysylltiedig â Llwybrau Dysgu 14-19, datblygu 'cynnig' Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc ac annog partneriaid addysgol eraill i gydnabod a gwerthfawrogi Gwaith Ieuenctid.

Mae'r Llawlyfr yn cyflwyno diffiniadau a chefndir i Lwybrau Dysgu, yn cyfeirio at gyfleoedd achredu, dulliau cyflwyno, cymariaethau rôl a gwybodaeth gyswllt sylfaenol. Mae'n cyfeirio at Arferion Gwaith Ieuenctid sydd eisoes wedi cyfrannu at Lwybrau Dysgu pobl ifanc. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

 

 

 

 

Dyfodol cynaliadwy: cyfraniad gwaith ieuenctid i bolisi ‘Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Llywodraeth Cymru ac i’r adolygiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Llywodraeth Cymru 2015) ac argymhellion adolygiad Donaldson Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson 2015) yn rhoi cyfle o’r newydd i waith ieuenctid yng Nghymru brofi’i werth a chreu dyfodol cynaliadwy iddo’i hun. 

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r cyfraniad y gall gwaith ieuenctid ei wneud i’r agendâu Llywodraeth Cymru hyn.

Gwobrwywyd Jamie Jones-Mead â bwrsari o Gwaithieuenctidcymru i gwblhau’r erthygl hon.

Mae Jamie Jones-Mead yn weithiwr ieuenctid a chymuned â chymwysterau proffesiynol.   Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid ac mae wedi gweithio mewn nifer o leoliadau yng Nghymru, y DG ac yn rhyngwladol.  

Mae’r rhain yn cynnwys mewn gwasanaethau ieuenctid statudol, gyda phobl ifanc anabl, troseddwyr ifanc, cleifion canser ifanc a phrofiad sylweddol yn y trydydd sector.   Yn ogystal â bod yn ymarferydd profiadol, mae gan Jamie ddiddordeb penodol mewn iechyd a llesiant, gan ei fod wedi arwain a rheoli rhaglenni tybaco a smygu ASH Cymru ar gyfer pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn lleoliad iechyd y cyhoedd.

Ymgynghoriad ar weledigaeth newydd ar gyfer Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/06/2013
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 16/09/2013

Addawodd Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Lywodraethu y byddai'n diweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid. Defnyddir canlyniadau’r ymgynghoriad hwn fel sail ar gyfer Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid i Gymru, a gyhoeddir yn yr hydref 2013.