Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014-2018
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac mae’n adeiladu ar ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 18 Mehefin 2013 ac 16 Medi 2013. Mae’r strategaeth yn cydnabod gwerth a rôl gwaith ieuenctid mynediad agored; mae’n hyrwyddo cysylltiad cryfach rhwng gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol; mae’n nodi’r angen am gydweithio agosach rhwng mudiadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol; ac mae’n nodi’r angen i gryfhau’n sylweddol y sylfaen dystiolaeth ar effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol, yn ogystal ac awdurdodau lleol, gydweithio er mwyn gweithredu’r camau a nodwyd a datblygu gwaith ieuenctid.
Author: Llywodraeth Cymru 2014
More Details