Neges – Gwaith Ieuenctid ac Atal Troseddu

Bydd y papur hwn yn dadlau fod gwasanaeth ieuenctid ag adnoddau digonol, a all fabwysiadu amrediad o ddulliau gweithredu, o fudd cynhenid i gymdeithas. Gall gwaith ieuenctid gynnig profiadau cadarnhaol sy’n wynebu anghenion a dyheadau pobl ifainc ac yn eu galluogi i ddatblygu fel dinasyddion cyfrifol ac i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd eu cymunedau.

Er nad yw atal troseddu erioed wedi bod yn brif gymhelliad i waith ieuenctid, mae ganddo gyfraniad pwysig i’w wneud yn y broses hon. Bydd y papur yma’n cyfeirio at adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a seiliwyd ar ymchwil a wnaed gan Coopers and Lybrand, sy’n arddangos y berthynas rhwng gwaith ieuenctid ac atal troseddu gan ieuenctid. (Coopers and Lybrand: ‘Preventative Strategy for Young People in Trouble’ 1994)

Neges – Pobl Ifanc, Gwaith Ieuenctid a Chynghorau Tref a Chymuned

Mae Cyngor Ieuenctid Cymru’n awyddus i gefnogi’r datblygiadau hyn, ac yn ystod hydref 1998 galwodd ddwy seminar a ystyriai rôl Cynghorau Tref a Chymuned mewn datblygu gwasanaethau i bobl ifanc.  Mae’r ddogfen friffio hon yn lledaenu gwybodaeth am ddatblygiadau i alluogi Cynghorau Tref a Chymuned eraill i sefydlu eu darpariaeth eu hunain.