Siarter Hawliau Pobl Ifanc

SIARTER HAWLIAU POBL IFAINC 1. Dylai pobl ifanc gael mynediad i ystod o gyfleoedd a gweithgareddau sydd yn unol a'r rhai sydd ar gael yn y gymdeithas gyfoes. Dylai'r gwasanaeth ieuenctid gynnig amrediad o amgylchiadau Me bydd pobl ifainc: – yn teimlo'n gyfforddus a diogel – yn gallu bod yn anffurfiol yn gallu cymysgu a'u ffrindiau – yn gallu bod yn hyderus am y cyngor a'r wybodaeth y maent yn eu derbyn. Dylai darpariaeth ar gyfer pobl ifainc fod ar gael ar adegau sydd yn gyfleus i bobl …

Canllawiau ar Fwyd a Diod Iach mewn Lleoliadau Gwaith Ieuenctid

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor ymarferol i helpu gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc i ddarparu bwyd a diod iachach mewn lleoliadau lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae’n cefnogi’r gwaith a wneir trwy Newid am Oes, Blas am Oes, a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwella deiet cyffredinol pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd ˆa nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn esiampl o arferion da yn yr ymdrech i greu amgylchedd lle mae’n hawdd i bobl fwyta’n iach.

Neges – Pobl Ifanc, Gwaith Ieuenctid a Chynghorau Tref a Chymuned

Mae Cyngor Ieuenctid Cymru’n awyddus i gefnogi’r datblygiadau hyn, ac yn ystod hydref 1998 galwodd ddwy seminar a ystyriai rôl Cynghorau Tref a Chymuned mewn datblygu gwasanaethau i bobl ifanc.  Mae’r ddogfen friffio hon yn lledaenu gwybodaeth am ddatblygiadau i alluogi Cynghorau Tref a Chymuned eraill i sefydlu eu darpariaeth eu hunain.

Neges – Pobl Ifanc a Digartrefedd yng Nghymru: Canllawiau i’r Gwasanaeth Ieuenctid

Bwriad y papur hwn yw rhoi arolwg o faintiuoli digartrefedd ieuenctid yng Nghymru; cynnig golwg ar brofiad pobl ifanc ddigartref yng Nghymru ac yn bwysig iawn, rhoi rhyw syniad am sut y gall y gwasanaeth ieuenctid chwarae rhan mewn datblygu a darparu gwasanaethau.

Cynnwys:
• Diffinio digartrefedd ieuenctid
• Maint a natur digartrefedd ieuenctid yng Nghymru
• Dewisiadau tai i bobl ifanc
• Rôl y gwasanaeth ieuenctid
• Sefydliadau tai yng Nghymru