NOS Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid 2012
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid 2012
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid 2012
Mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG) wedi paratoi'r papur hwn i ledaenu themâu arferion da yn bennaf, fel y bydd modd gwella ansawdd gwaith ieuenctid a chyflwyno tystiolaeth bod safonau'r gwaith hwnnw wedi bod yn uchel yn ystod y cyfnod dan sylw (8 mlynedd).
Mae rôl Estyn ynglŷn â Gwasanaeth Ieuenctid Cymru wedi newid dros y degawd diwethaf. Ar un adeg, roedd y gwasanaeth yn destun arolygu trylwyr. Ar ôl i’r drefn honno ddod i ben, byddai arolygwyr yn rhoi adborth amdano yn rhan o’r golwg ehangach ar wasanaethau cynorthwyo’r ifainc. Erbyn hyn, fodd bynnag, yn ôl y trefniadau presennol ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdodau lleol i blant a phobl ifanc, does dim gofyn i roi adborth penodol amdano.
Mae’r papur hwn wedi’i lunio er cymorth i swyddogion arweiniol newydd a phrofiadol gwasanaethau ieuenctid yr awdurdodau lleol. Ei ddiben yw rhoi gwybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd. At hynny, mae’n bosibl y bydd yn sbarduno trafodaethau am rôl y gwasanaeth ieuenctid yn y dyfodol ynglŷn â helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau statudol o ran gwasanaethau cynorthwyo’r ifainc.
Yn ogystal â’r papur hwn, rydyn ni wedi llunio papur arall ac ynddo sylwadau Estyn am wasanaethau ieuenctid yn sgîl arolygu darpariaeth addysg yr awdurdodau lleol rhwng 2004 a 2012, gan gynnwys amryw arferion da welodd yr arolygwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor ymarferol i helpu gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc i ddarparu bwyd a diod iachach mewn lleoliadau lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae’n cefnogi’r gwaith a wneir trwy Newid am Oes, Blas am Oes, a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwella deiet cyffredinol pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd ˆa nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn esiampl o arferion da yn yr ymdrech i greu amgylchedd lle mae’n hawdd i bobl fwyta’n iach.
Mae tymor i bob llywodraeth yn ei thro, cynigir polisïau newydd, mae Gweinidogion yn sôn am eu hawydd i ddatrys y ‘problemau’ sy’n wynebu pobl ifanc o ddegawd i ddegawd. Yn y cyfamser mae Clybiau Pobl Ifanc Cymru’n parhau i gynnig ei raglen yng Nghymru heb ots am y blaid sy’n ennill yr etholiad na’r gwahanol fathau o argyfwng sy’n taro’r wlad. Ar wahân i newid ei enw o bryd i’w gilydd mae CPI Cymru’n dal i sefyll yn falch fel un o’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol mwyaf yn y Dywysogaeth.
Mae’r Mudiad yn ddyledus am ei lansio i’r perchennog pyllau glo a’r dyngarwr, David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam wedi hynny, a oedd yn Gadeirydd ar gwmni glo mawreddog Ocean. Ffurfiwyd clybiau i ddifyrru’r bechgyn ifanc a weithiai yn y glofeydd yn ystod eu horiau hamdden. Bu’r rhaglenni blynyddol yn fodd i gynnig profiadau a chyfleoedd newydd gan gadw’r un pryd at y gweithgareddau traddodiadol a oedd yn boblogaidd ymhlith yr aelodau ifanc, ac mae hynny’n wir hyd y dydd hwn.