FfYDI Gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Adroddiad terfynol

Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae chwe elfen i’r Fframwaith, y profwyd eu bod yn effeithiol wrth gynyddu ymgysylltiad a datblygiad ieuenctid o’u gweithredu gyda’i gilydd yn rhan o strategaeth. Dyma’r elfennau: adnabod yn gynnar, gwell broceriaeth a chydgysylltu cymorth; prosesau olrhain a throsglwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc; sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion pobl ifanc; pwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ymhlith pobl ifanc; a mwy o atebolrwydd. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am arwain y broses o weithredu’r Fframwaith, gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, ysgolion, darparwyr hyfforddiant i bobl ifanc 16 oed a hŷn a phartneriaid eraill. 

Nod y gwerthusiad oedd asesu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r Fframwaith ac effeithiolrwydd prosesau gweithredu, gan ystyried a yw’r arweiniad anstatudol yn ddigonol i gyflawni uchelgeisiau a thargedau Llywodraeth Cymru ac amlygu gwersi i’w dysgu er mwyn gwella’r arweiniad a’r broses weithredu. 

Rhaglen Bartneriaeth Gwaith Ieuenctid ac Ysgolion: Adroddiad Terfynol

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan ddefnyddio gwybodaeth o'r adroddiad ar ddiwedd y prosiect ac
adroddiadau dros dro. Mae’r adroddiad yn cynnig golwg gyffredinol ar y rhaglen o’i sefydlu yn 1998 hyd ei diwedd yn 2003 ynghyd ag argymhellion a goblygiadau ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid.

Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid: Sylwadau Estyn am Wasanaeth Ieuenctid Cymru, 2004-2012

Mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG) wedi paratoi'r papur hwn i ledaenu themâu arferion da yn bennaf, fel y bydd modd gwella ansawdd gwaith ieuenctid a chyflwyno tystiolaeth bod safonau'r gwaith hwnnw wedi bod yn uchel yn ystod y cyfnod dan sylw (8 mlynedd).

Mae rôl Estyn ynglŷn â Gwasanaeth Ieuenctid Cymru wedi newid dros y degawd diwethaf. Ar un adeg, roedd y gwasanaeth yn destun arolygu trylwyr. Ar ôl i’r drefn honno ddod i ben, byddai arolygwyr yn rhoi adborth amdano yn rhan o’r golwg ehangach ar wasanaethau cynorthwyo’r ifainc. Erbyn hyn, fodd bynnag, yn ôl y trefniadau presennol ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdodau lleol i blant a phobl ifanc, does dim gofyn i roi adborth penodol amdano.

Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid: Arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdodau lleol i blant a phobl ifanc – gwasanaethau ieuenctid yr awdurdodau lleol

Mae’r papur hwn wedi’i lunio er cymorth i swyddogion arweiniol newydd a phrofiadol gwasanaethau ieuenctid yr awdurdodau lleol. Ei ddiben yw rhoi gwybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd. At hynny, mae’n bosibl y bydd yn sbarduno trafodaethau am rôl y gwasanaeth ieuenctid yn y dyfodol ynglŷn â helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau statudol o ran gwasanaethau cynorthwyo’r ifainc.

Yn ogystal â’r papur hwn, rydyn ni wedi llunio papur arall ac ynddo sylwadau Estyn am wasanaethau ieuenctid yn sgîl arolygu darpariaeth addysg yr awdurdodau lleol rhwng 2004 a 2012, gan gynnwys amryw arferion da welodd yr arolygwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.