Canllawiau ar Fwyd a Diod Iach mewn Lleoliadau Gwaith Ieuenctid

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor ymarferol i helpu gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phobl ifanc i ddarparu bwyd a diod iachach mewn lleoliadau lle mae pobl ifanc yn cwrdd. Mae’n cefnogi’r gwaith a wneir trwy Newid am Oes, Blas am Oes, a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy’n ceisio gwella deiet cyffredinol pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd ˆa nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn esiampl o arferion da yn yr ymdrech i greu amgylchedd lle mae’n hawdd i bobl fwyta’n iach.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion 2014

Dwyieithog. Prif amcan y ddogfen yw nodi’r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid a bwrw golwg gyffredinol ar ei ddibenion ac ar y gwaith o’i ddarparu. Mae cynnwys y ddogfen yn ymwneud yn benodol â gwaith ieuenctid yng Nghymru, ond mae’n debyg y bydd yn cyd-fynd ag egwyddorion, dibenion ac ymarfer gwaith ieuenctid mewn rhannau eraill o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Cydamcanu; Cydymdrechu: Canllawiau ar Integreiddio Partneriaethau a Chynlluniau

Canllawiau ar Integreiddio Partneriaethau a Chynlluniau.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid defnyddio cynllun integredig unigol i gyflawni’r dyletswyddau statudol o ran datblygu cynlluniau a strategaethau sydd wedi’u gosod yn y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Rhan 2: Adrannau 37-46) – Strategaethau cymunedol;
  • Deddf Plant 2004 (Rhan 3: Adran 26) – Cynllun Plant a Phobl Ifanc (sy’n cynnwys cynlluniau sy’n ofynnol o dan adran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rhan 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010);
  • Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Rhan 3: Adran 40) – Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles;
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Rhan 1: Adran 6) – Strategaethau i ostwng troseddu ac anhrefn, strategaethau i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill, a strategaethau i ostwng aildroseddu.
  • Mesur Plant a Theuloedd (Cymru) 2010 adrannau 11 a 12 – y dyletswyddau mewn perthynas ag awdurdodau lleol i asesu ar gyfer cyfleoedd chwarae digonol ac i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnynt, ac i gyhoeddi a diweddaru gwybodaeth am ei drefniadau.

Neges – Canlyniadau Arolwg Holiadur Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn cynnwys canlyniadau rhan o arolwg holiadur a gynhaliwyd er mwyn gweld
a yw’r gwasanaeth ieuenctid cynaledig yng Nghymru, yn gallu bodloni gofynion polisi’r
llywodraeth ac anghenion pobl ifanc, tra’n cynnal ei hunaniaeth sefydliadol benodol. Casglwyd
a dadansoddwyd gwybodaeth a gyflwynwyd yn yr holiadur rhwng 2000 a 2002, cyfnod pan
welwyd nifer o effeithiau sylweddol yn sgil datganoli llywodraeth a chreu Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (1999). Ers yr adeg hwn, mae’r gwasanaeth ieuenctid wedi cael ei
archwilio’n llawer mwy trylwyr mewn agenda wleidyddol sy’n rhoi cryn sylw i wella cyfraniad
pob person ifanc tuag at les cymdeithasol ac economaidd Cymru. Ategwyd y sefyllfa hon gan
gasgliadau ac argymhellion Ymestyn Hawliau (CCC 2000) a ddaeth yn brif ddogfen y
llywodraeth ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau i bobl ifanc.