Llawlyfr – Cyfnweidiadau Ieuenctid

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r llawlyfr hwn wedi cael ei ddatblygu i gyflwyno, egluro neu ymhelaethu ar wybodaeth a phrofiadau cyfredol mewn perthynas â phrosiectau cyfnewid ieuenctid a phrofiadau diwylliannol. Wrth geisio cyflawni'r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc y mae Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru a Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn canolbwyntio arnynt, mae'n annog datblygu cyfleoedd i ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad bywyd pobl ifanc sy'n ymgysylltu â darpariaeth gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Llawlyfr – Gwaith Ieuenctid a’r Gymraeg

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r llawlyfr hwn ar gyfer awdurdodau lleol, cyrff cenedlaethol a'r mudiadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac sy'n awyddus i ddatblygu darpariaeth iaith Gymraeg a dathlu diwylliant Cymreig o fewn eu lleoliadau penodol. Efallai y bydd hyn yn heriol i rai sefydliadau a bydd y canllaw hwn yn helpu i roi syniadau a dyheadau ar waith. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Llawlyfr – Gwybodaeth

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae natur gwaith gwybodaeth ieuenctid yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar lawer o wahanol bethau megis ardal, demograffeg ac ystod oedran. Mae'r llawlyfr hwn yn cynnwys cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith gwybodaeth ieuenctid o ansawdd da. Nid yw wedi'i bwriadu i fod yn set o gyfarwyddiadau pendant oherwydd y pethau gwahanol hynny. Mae'r ystyriaethau hyn wedi eu cymryd i ystyriaeth fel eu bod yn addas ar gyfer cyflwyno ystod eang o waith gwybodaeth ar draws sbectrwm cyfan Gwaith Ieuenctid. Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei defnyddio gan bawb o weithiwr gwirfoddol mewn neuadd gymunedol am ddwy awr yr wythnos i weithiwr proffesiynol llawn amser sy'n ceisio sefydlu gwasanaeth gwybodaeth ieuenctid. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Llawlyfr – Iechyd a Lles

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu gwybodaeth, cyngor, gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc sy’n dysgu am yr agweddau lawer ar Iechyd a Lles. Yn gyffredinol, bu’n rhaid i weithwyr ieuenctid wneud eu hymchwil eu hunain i chwilio am yr adnoddau i ddarparu’r rhain yn effeithiol. Yn y llawlyfr hwn, cynigir cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer darparu gwaith ieuenctid Iechyd a Lles o ansawdd mewn un lle. Ni fwriedir iddo fod yn ateb awdurdodol i hyn ond mae’n cynnig adnoddau ar y rhan fwyaf o feysydd lle mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc. Bwriedir y bydd modd i’r adnoddau gael eu defnyddio gan bob gweithiwr ieuenctid, boed yn gyflogedig neu beidio, mewn unrhyw safle ac am ba gyfnod bynnag o amser y bydd y safle hwnnw’n weithredol. 

[Nid yw’r CWVYS yn cynrychioli bod y wybodaeth yn y llawlyfr yn fanwl gywir, yn gynhwysfawr, wedi’i wirio neu’n gyflawn, ac nid yw’n derbyn cyfrifioldeb am fanwl gywirdeb nac chyflawnrwydd y wybodaeth ar y wefan yma nac am unrhyw hyder sydd yn cael ei osod ar y wybodaeth gan unrhyw berson.]

Neges – Ymgynghori gyda Phobl Ifanc Sealand Manor, Clwyd

Deilliodd y syniad o gynnal y prosiect hwn yn sgil trafodaethau a gafwyd gydag Asiantaeth Gymunedol Alun a Glannau Dyfrdwy ynglyn â natur swyddogaeth y Cyngor/Fforwm yn gymruso pobl ifanc ac yn datblygu modelau ymarfer i alluogi pobl ifanc i gael llais yn eu cymunedau.

Amcanion y prosiect oedd galluogi pobl ifanc a’r gymuned leol i ddod i benderfyniad ynglyn â defnydd canolfan gymunedol Sealand Manor ar gyfer gweithgareddau pobl ifanc a sut mae modd i bobl ifanc gyfrannu at hynny.  Roedd y prosiect hefyd yn ymwneud ag ymgyrchoedd ehangach yn delio â buddiannau a phryderon pobl ifanc yr ardal.