Amdanom ni

Sefydlwyd gwaithieuenctidcymru, y gronfa adnoddau ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru, yn 2008, fel partneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel gwefan agored a dielw.

Nod y wefan yw cynnig ystod o wybodaeth a fydd yn cynorthwyo ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru i ddatblygu theori ac ymarfer. Mae’r wefan yn canolbwyntio’n bennaf ar arddull benodol o weithio gyda phobl ifanc, sy’n cael ei gyflwyno o fewn fframwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, ac yn annog pobl ifanc 11-25 oed i gyfranogi’n wirfoddol mewn ystod eang o weithgareddau cadarnhaol.

Mae canlyniadau gweithgareddau o’r fath yn cynnwys datblygu ymdeimlad o hunaniaeth bersonol mewn pobl ifanc, eu lles, a’u lle o fewn eu cymdogaeth, eu cymuned, a’r gymdeithas ehangach.

Mae deilliannau gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc hefyd yn cynnwys datblygu ystod o sgiliau, eu cyfranogiad gweithredol yn y gwaith a gwell gallu emosiynol.

Mae gan gwaithieuenctidcymru fwrdd golygyddol bychan sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Darrel Williams, Rachel Burton a Dr John Rose. Ond hefyd, hoffai gwaithieuenctidcymru recriwtio cronfa o Olygyddion Cyswllt.

Cynigir y wefan hon i’r maes fel gwasanaeth dielw. Gall unrhyw un ddefnyddio’r tudalennau yn rhad am ddim. Nid oes hysbysebion ar y wefan, ac ni dderbynnir nawdd na thâl am y dolenni golygyddol i wefannau eraill.

Croesawir yr eitemau canlynol:

  • Aseiniadau myfyrwyr/adroddiadau ymchwil sy’n haeddu cynulleidfa ehangach ac a allai gyfrannu at ddatblygiad theori gwaith ieuenctid yng Nghymru;
  • Rhai cyhoeddiadau allweddol nad ydynt ar gael ar wefannau bellach. Bydd hyn yn eu cadw mewn un lle;
  • Dogfennau hanesyddol sy’n dangos datblygiad arfer gwaith ieuenctid yng Nghymru;
  • Erthyglau neu adroddiadau gan ddarlithwyr neu diwtoriaid gwaith ieuenctid;
  • Erthyglau neu adroddiadau gan weithwyr ieuenctid neu sefydliadau gwaith ieuenctid

Sut i gyfrannu

Mae arnom angen eich cymorth i ddatblygu’r wefan hon ac i sicrhau y daw yn adnodd canolog a wnaiff gyfrannu at feddylfryd a datblygiad gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Hyderwn y gwnaiff y fenter hon greu diwylliant yng Nghymru lle bydd gweithwyr ieuenctid yn frwdfrydig ynghylch ysgrifennu am eu gwaith a’i rannu.

Buasem hefyd yn croesawu sylwadau ynghylch arddull a chynnwys y wefan a sut y gellid eu gwella.

Cysylltwch â ni yn

E-bost gwybodaeth@gwaithieuenctidcymru.org.uk