Cyfrannwch

Os hoffech ysgrifennu neu gyfrannu rhywbeth, hoffem glywed gennych. Mae dau ddull o gyfrannu:

  • Cyflwyno ar-lein yn awr – Mae’r dewis hwn yn eich galluogi i lwytho eich eitem i fyny i’r safle a chwblhau pro fforma ar-lein sy’n cynnwys disgrifiad o’r eitem y byddwch yn ei lwytho i fyny. Anfonir y rhain at y gweinyddwr yn y lle cyntaf, fel ni fyddant yn ymddangos yn syth ar y safle.
  • Anfon yn ddiweddarach – Mae’r dewis hwn yn eich galluogi i lawrlwytho pro fforma i ddisgrifio’r eitem y byddwch yn ei chyflwyno, ac yna, gellir e-bostio’r neu bostio’r ddau at weinyddwr y safle.

Cadarnhad fod caniatâd wedi’i gael i gynnwys y ddogfen neu’r erthygl ar wefan gwaithieuenctidcymru

Gwybodaeth ar gyfer Cyfranwyr

Mae’r grwp golygyddol wrthi’n chwilio am erthyglau gwreiddiol, dogfennau hanesyddol ac adroddiadau i’w cynnwys yng ngwefan gwaithieuenctidcymru.
Croesawir erthyglau dwyieithog yn arbennig.

Dylai’r rhain fod yn berthnasol i nodau a phwrpasau’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru a gallent gynnwys:

  • Aseiniadau myfyrwyr/adroddiadau ymchwil sy’n haeddu cynulleidfa ehangach ac a allai gyfrannu at ddatblygiad theori gwaith ieuenctid yng Nghymru;
  • Rhai cyhoeddiadau allweddol nad ydynt ar gael ar wefannau bellach. Bydd hyn yn eu cadw mewn un lle;
  • Dogfennau hanesyddol sy’n dangos datblygiad arfer gwaith ieuenctid yng Nghymru;
  • Erthyglau neu adroddiadau gan ddarlithwyr neu diwtoriaid gwaith ieuenctid;
  • Erthyglau neu adroddiadau gan weithwyr ieuenctid neu rai a gynhyrchir gan sefydliadau gwaith ieuenctid

Cyfraniadau

Hyd a Chynnwys
Fel arfer, dylai erthyglau gwreiddiol fod rhwng 500 a 5,000 o eiriau o ran hyd. Nid yw gwefan gwaithieuenctidcymru yn canolbwyntio ar faterion cyfoes yn unig; byddwn hefyd yn ystyried erthyglau sy’n seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol neu â ffocws hanesyddol.

Cyflwyno erthyglau gwreiddiol
Dylid teipio’r holl erthyglau, yn ddelfrydol â ffont Arial maint 12.  Dylid ysgrifennu’r holl erthyglau yn Gymraeg neu Saesneg. Dylai’r iaith fod yn eglur, heb jargon ac ag ystyriaeth i faterion yn ymwneud â chyfartaledd a gwahaniaeth.Croesawir darluniau a diagramau mewn erthyglau, ond dylid sicrhau caniatâd i’w defnyddio a dylid cynnwys cyfeiriadau priodol ar eu cyfer.

Penderfyniadau Golygyddol
Grwp golygyddol gwaithieuenctidcymru fydd yn gyfrifol am benderfyniadau terfynol ynglyn â chynnwys deunydd ar y wefan. Mae’r golygyddion yn cadw’r hawl i wneud newidiadau bychain i erthyglau gwreiddiol cyn eu cyhoeddi, o ran arddull, eglurder a chonfensiynau gramadegol. Fodd bynnag, trafodir unrhyw waith golygu trwyadl â’r awdur(on) cyn cyhoeddi’r gwaith.

Diolch am eich diddordeb yn gwaithieuenctidcymru.