Telerau ac amodau defnyddio’r wefan

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, byddwch yn cytuno i gydymffurfio a bod yn rhwym gan y telerau a’r amodau defnydd canlynol, sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant â chi mewn cysylltiad â’r wefan hon. Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan, os gwelwch yn dda. Darllenwch y telerau a’r amodau llawn…

Mae’r term ‘Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan, y lleolir ei swyddfa gofrestredig yn: Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, 7 Iard y Cowper, Caerdydd CF10 5NB.  Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu’n gwylio ein gwefam.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 1071234) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr (rhif 3109524).

Mae’r defnydd o’r wefan hon yn ddibynnol ar y telerau ac amodau defnydd canlynol:

  • Bwriedir cynnwys tudalennau’r wefan hon ar gyfer eich gwybodaeth a’ch defnydd cyffredinol yn unig. Gellir ei newid heb roi rhybudd.
  • Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os ydych yn caniatáu defnyddio cwcis, gall trydydd parti storio’r manylion personol canlynol ar ein rhan.
  • Nid ydym ni, nac unrhyw drydydd parti, yn gwarantu cywirdeb,  amseroldeb,  perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu gamgymeriadau, ac rydym yn benodol yn eithrio atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau neu gamgymeriadau o’r fath i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • Byddwch yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau a gynhwysir ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau fod unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth a ddarperir trwy’r wefan hon yn diwallu eich gofynion penodol.
  • Mae’r wefan yn cynnwys deunyddiau sy’n eiddo i ni neu wedi’u trwyddedu i ni. Maent yn cynnwys, ond nid wedi’u cyfyngu i, y dyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu’r deunyddiau hyn, ac eithrio yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau a’r amodau hyn.
  • Rhoddir cydnabyddiaeth ar y wefan hon i unrhyw nodau masnach a ddefnyddir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i nac wedi’u trwyddedu i’r gweithredwr.
  • Gall defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu gallai fod yn drosedd .
  • O bryd i’w gilydd, gall y wefan hon gynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn i hwyluso darparu rhagor o wybodaeth i chi. Ni fydd hyn yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau dan sylw. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan(nau) cysylltiedig.

Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r fath o’r wefan yn amodol ar gyfreithiau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.