Sefydliadau Partner

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales gweithredu’n wahanol iawn i’r rhan fwyaf o Golegau addysg bellach. Yn ystyr draddodiadol y gair, nid yw’n goleg o gwbl. Yn hytrach na defnyddio man canolog, cynhelir pob cwrs mewn lleoliadau yn y gymuned ac fe’u darperir gan diwtoriaid lleol. Mae hyn yn creu awyrgylch cyfforddus a chyfarwydd i ddysgu ynddo sy’n apelio at bawb sydd am ddysgu sgiliau newydd, o rai sydd newydd adael yr ysgol i bobl wedi ymddeol.

Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i bobl ledled Cymru, ac mae’n annog myfyrwyr i ddefnyddio’r hyn a ddysgant i wella ansawdd eu bywydau eu hunain a’u cymunedau.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Coleg yn arwain at dystysgrifau’r Rhwydwaith Coleg Agored (RhCA) a dderbynnir gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch, a gan lawer o gyflogwyr.

 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Choleg Prifysgol Y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed. Ar 1 Awst 2013, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS.

Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011, daeth Ei Uchelder Brenhinol yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol.

Mae Grŵp PCYDDS yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhan o strwythur grŵp sector deuol sy’n cynnwys colegau addysg bellach a’r brifysgol. Mae gan Grŵp PCYDDS dros 25,000 o ddysgwyr ar draws 17 o gampysau mewn lleoliadau gwledig a dinesig. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflwyno manteision clir, diriaethol i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau trwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol.

Lleolir prif gampysau’r Brifysgol mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas canol dinas Abertawe ac yn nhrefi gwledig Llambed a Chaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru.