Eich canlyniadau chwilio (84)
Yn dangos canlyniadau gan ddefnyddio rhai o'ch termau chwilio
Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r trefniadau llywodraethu a chyflawni ar gyfer gwireddu’r ymrwymiadau a nodwyd yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.
Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019
Mae’r strategaeth hon yn cynnig gweledigaeth gytûn ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid
yng Nghymru. Mae’r egwyddorion lefel uchel sydd wedi’u pennu yn y ddogfen hon wedi’u datblygu ar y cyd â phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid. Mae’r strategaeth yn cynnig cyfres o gamau gweithredu a fydd yn ein symud ni yn nes at ein hamcanion hirdymor a bydd yn cael ei hategu gan Gynllun Gweithredu.
YWCSW 2018 Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion
Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau a swyddogion etholedig awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy'n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cefnogaeth ieuenctid.
Rôl a gwerth gwaith ieuenctid mewn agendâu cyfredol yng Nghymru ac agendâu sy’n dod i’r amlwg
Dyfodol cynaliadwy: cyfraniad gwaith ieuenctid i bolisi ‘Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ Llywodraeth Cymru ac i’r adolygiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Llywodraeth Cymru 2015) ac argymhellion adolygiad Donaldson Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson 2015) yn rhoi cyfle o’r newydd i waith ieuenctid yng Nghymru brofi’i werth a chreu dyfodol cynaliadwy iddo’i hun.
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r cyfraniad y gall gwaith ieuenctid ei wneud i’r agendâu Llywodraeth Cymru hyn.
Gwobrwywyd Jamie Jones-Mead â bwrsari o Gwaithieuenctidcymru i gwblhau’r erthygl hon.
Mae Jamie Jones-Mead yn weithiwr ieuenctid a chymuned â chymwysterau proffesiynol. Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid ac mae wedi gweithio mewn nifer o leoliadau yng Nghymru, y DG ac yn rhyngwladol.
Mae’r rhain yn cynnwys mewn gwasanaethau ieuenctid statudol, gyda phobl ifanc anabl, troseddwyr ifanc, cleifion canser ifanc a phrofiad sylweddol yn y trydydd sector. Yn ogystal â bod yn ymarferydd profiadol, mae gan Jamie ddiddordeb penodol mewn iechyd a llesiant, gan ei fod wedi arwain a rheoli rhaglenni tybaco a smygu ASH Cymru ar gyfer pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn lleoliad iechyd y cyhoedd.
Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid: Atal troseddu ymhlith pobl ifanc Cymru – rôl gwaith ieuenctid
Diweddariad Gwaith Ieuenctid – Mai 2017- 4ydd diweddariad
Ymgynghoriad ar weledigaeth newydd ar gyfer Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gael barn pobl ynghylch cynigion newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/06/2013
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 16/09/2013
Addawodd Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Lywodraethu y byddai'n diweddaru’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid. Defnyddir canlyniadau’r ymgynghoriad hwn fel sail ar gyfer Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid i Gymru, a gyhoeddir yn yr hydref 2013.
Cyfraniad gwaith ieuenctid i’r Rhaglen ar Gyfer Llywodraethu yng Nghymru
Nod hyn o bapur yw dangos ble a sut mae gwaith ieuenctid yn gallu helpu i gyflawni polisïau ehangach Llywodraeth Cymru trwy wella byd pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Nid nodi meysydd newydd na phennu ehangder gwaith ieuenctid yw’r diben, ond tynnu sylw at y rôl bresennol – sy’n ffordd benodol o weithio gyda’r ifainc – ynglŷn â helpu i gyflawni a chryfhau polisïau Llywodraeth Cymru
Dyma agweddau Rhaglen Llywodraeth Cymru:
- Twf a swyddi cynaladwy
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Gofal iechyd yn yr 21ain ganrif
- Addysg
- Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’
- Cartrefi Cymru
- Cymunedau mwy diogel
- Cydraddoldeb
- Trechu tlodi
- Cymunedau gwledig
- Yr amgylchedd a chynaladwyedd
- Diwylliant a threftadaeth Cymru
Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014-2018
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r cyfeiriad ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid ar gyfer y pedair blynedd nesaf ac mae’n adeiladu ar ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 18 Mehefin 2013 ac 16 Medi 2013. Mae’r strategaeth yn cydnabod gwerth a rôl gwaith ieuenctid mynediad agored; mae’n hyrwyddo cysylltiad cryfach rhwng gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol; mae’n nodi’r angen am gydweithio agosach rhwng mudiadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol; ac mae’n nodi’r angen i gryfhau’n sylweddol y sylfaen dystiolaeth ar effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol, yn ogystal ac awdurdodau lleol, gydweithio er mwyn gweithredu’r camau a nodwyd a datblygu gwaith ieuenctid.