Eich canlyniadau chwilio (11)
Yn dangos canlyniadau gan ddefnyddio rhai o'ch termau chwilio
Hanes Mudiad y Clybiau Bechgyn yng Nghymru -Llinell Amser 28-08
Mae tymor i bob llywodraeth yn ei thro, cynigir polisïau newydd, mae Gweinidogion yn sôn am eu hawydd i ddatrys y ‘problemau’ sy’n wynebu pobl ifanc o ddegawd i ddegawd. Yn y cyfamser mae Clybiau Pobl Ifanc Cymru’n parhau i gynnig ei raglen yng Nghymru heb ots am y blaid sy’n ennill yr etholiad na’r gwahanol fathau o argyfwng sy’n taro’r wlad. Ar wahân i newid ei enw o bryd i’w gilydd mae CPI Cymru’n dal i sefyll yn falch fel un o’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol mwyaf yn y Dywysogaeth.
Mae’r Mudiad yn ddyledus am ei lansio i’r perchennog pyllau glo a’r dyngarwr, David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam wedi hynny, a oedd yn Gadeirydd ar gwmni glo mawreddog Ocean. Ffurfiwyd clybiau i ddifyrru’r bechgyn ifanc a weithiai yn y glofeydd yn ystod eu horiau hamdden. Bu’r rhaglenni blynyddol yn fodd i gynnig profiadau a chyfleoedd newydd gan gadw’r un pryd at y gweithgareddau traddodiadol a oedd yn boblogaidd ymhlith yr aelodau ifanc, ac mae hynny’n wir hyd y dydd hwn.
Pobl Ifanc a Chymdeithas – Darlith Goffa Arthur Mellows 1962
Gwariant Defnyddwyr yn eu Harddegau yn 1959
GWARIANT DEFNYDDWYR YN EU HARDDEGAU YN 1959